Ydych chi angen help i fyw’n ddiogel ac annibynnol yn eich cartref eich hun wrth i chi fynd yn hŷn?
Mae Gofal a Thrwsio ym Mhowys yn darparu arbenigedd, cyngor a chymorth ymarferol i bobl hŷn neu bobl gydag anableddau sydd angen gwaith trwsio, adnewyddu neu addasu yn eu cartrefi. Byddwn yn gwneud hyn trwy helpu pobl i ddal i fyw gartref yn annibynnol, cysurus a diogel.
Gallwn:
- Roi cyngor arbenigol ar opsiynau ar gyfer addasu neu drwsio yn eich cartref
- Helpu i ganfod ffynonellau cyllid ar gyfer y gwaith sydd angen ei wneud
- Rhoi cyngor ar fudd-daliadau i edrych os ydych chi'n derbyn popeth y mae gennych hawl iddo
- Asesu a chynghori ar ddiogelwch yn y cartref
- Eich helpu i ddarganfod contractwr adeiladu ag enw da ar gyfer gwaith mwy
- Darparu gwasanaeth technegol i oruchwylio’r gwaith
- Eich diweddaru am hynt y gwaith a gweld ydych chi’n hapus gyda’r gwaith sydd wedi ei wneud