Ochr yn ochr â’n Gweithwyr Achos a’n Swyddogion Mân Addasiadau, rydym yn cyflogi Swyddogion Technegol gydag arbenigedd mewn gweithiau adeiladu mwy i’ch cynghori a’ch helpu trwy’r broses.

Os gall Gofal a Thrwsio ym Mhowys eich helpu, byddwn yn:
- Rhoi cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim ynglŷn â thrwsio ac addasu
- Paratoi rhestr gweithiau a lluniadau i chi eu hystyried os oes angen
- Eich helpu i ddewis adeiladwr gydag enw da a chael amcanbrisiau ysgrifenedig
- Rhoi cyngor ar sut i dalu am y gwaith
- Eich helpu i lenwi ffurflenni ar gyfer grantiau a benthyciadau a delio gyda’r gwaith gweinyddol
- Cysylltu gydag adran Grantiau’r Awdurdod Lleol, yr adran Gwasanaethau Cymdeithasol, Bwrdd Iechyd Lleol ac asiantaethau eraill fel bo angen
- Rhoi cyngor a chefnogaeth pan fydd y gwaith yn mynd rhagddo
- Sicrhau y caiff y gweithiau eu cwblhau fel y cytunwyd cyn y gwneir taliad
- Does dim rhaid i chi dderbyn y cyngor sy’n cael ei gynnig
Dylid nodi mai chi sydd piau pob penderfyniad am waith a chyllid yn y pen draw.
Os byddwch chi’n ariannu neu drefnu gwaith trwsio neu addasu eich hun ond angen cymorth technegol, fe allwn helpu ond mae’n bosib y bydd tâl yn cael ei godi am hynny.