Allwn ni helpu?
Ffoniwch ni ar 01686 620760
Mae Paragraff 2 Atodlen 1 Deddf Tai 1996 yn gwahardd Cymdeithasau Tai rhag cyflogi perthnasau agos Aelodau Bwrdd a dim ond mewn rhai amodau y caniateir iddynt gyflogi perthnasau agos fel aelodau o staff. Felly os ydych yn perthyn i Aelod o'r Bwrdd neu aelod o staff y Gymdeithas yma (neu i rywun nad yw mwyach yn Aelod o'r Bwrdd neu aelod o staff ond a fu felly o fewn y 12 mis diwethaf), nodwch enw'r person a'ch perthynas iddo ef neu iddi hi.
Mae Grŵp Barcud yn gweithio tuag at ddileu gwahaniaethu a hyrwyddo cyfle cyfartal mewn darpariaeth gwasanaethau a hefyd fel cyflogwr. Mae llenwi'r adran hon o'r ffurflen gais ar eich disgresiwn chi gan ei bod yn wirfoddol. Caiff y data a gesglir ei defnyddio i helpu'r Gymdeithas i fonitro a sicrhau llwyddiant ein Cynllun Cydraddoldeb Sengl. Fe'i defnyddir hefyd i adrodd ar anghenion gwahanol grwpiau o bobl. Caiff yr holl wybodaeth ei thrin yn gyfrinachol ac yn unol â Deddf Diogelu Data 1998.
Sgiliau yn y Gymraeg
(ticiwch fel sy'n briodol os gwelwch yn dda)
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn diffinio anabledd fel 'amhariad corfforol neu feddyliol sydd ag effaith niweidiol sylweddol a hirdymor ar eich gallu i wneud gweithgareddau arferol dydd-i-ddydd'. Mae hyn yn cynnwys pobl gyda phroblemau synhwyraidd a symudedd, pobl gydag anawsterau dysgu, pobl gydag anghenion iechyd meddwl a phobl yn byw gyda chyflwr iechyd difrifol.
Os teimlwch y gallech gael budd o addasiadau/newidiadau a wnaed i'ch helpu gyda'ch gweithgareddau ar gyfer Grŵp Barcud, cysylltwch â'r Swyddog Llywodraethiant neu Reolwr Adnoddau Dynol os gwelwch yn dda a byddem yn hapus siarad gyda chi am hyn.
Er mwyn i'r Gymdeithas allu drin eich cais am swydd ar-lein, darllenwch y datganiad canlynol. Os nad ydych yn gallu ei gytuno, wedyn ni chewch gyflwyno'r cais, a dylech roi tic yn y blwch
Yr wyf yn tystio fod y manylion uchod yn gywir, hyd eithaf fy ngwybodaeth a'm cred, ac yn deall y gall rhoi gwybodaeth anghywir arwain at wrthod neu ganslo fy nghais.