Caiff prosiect Mamwlad ei gyflwyno gan Gofal a Thrwsio ym Mhowys ac Age Cymru Powys a’i ariannu gan Lywodraeth Cymru.
Mae’n wasanaeth i helpu pobl dros 50 oed yn y gymuned ffermio – p’un ai’n ffermwyr, gweithwyr fferm neu wedi ymddeol o ffermio – i barhau i fyw’n ddiogel ac annibynnol yn eu cartrefi ac i fynd i’r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd.
Sut fedrwn ni helpu?
Bydd Gofal a Thrwsio ym Mhowys yn neilltuo amser i siarad gyda chi am eich cartref ac yn rhoi cyngor ar opsiynau i addasu, atgyweirio a chynnal a chadw eich cartref, p’un ai ydych yn berchen arno neu yn ei rentu.
Byddwn yn cynnig Asesiad Cartref Iach yn rhad ac am ddim i’ch helpu i ymdopi’n well ac aros yn ddiogel, cynnes a saff sy’n cynnwys:
- Atal syrthio, baglu a llithro
- Gwiriad diogelwch tân
- Effeithiolrwydd ynni
- Diogelwch cartrefi
Gallai ein tîm Mân Addasiadau ein hunain wneud gwaith a gytunir a gall hefyd gael ei ariannu gan grantiau. Gallwn hefyd helpu drwy:
- Eich cyfeirio at ein tîm technegol neu therapydd galwedigaethol
- Canfod cyllid
- Canfod contractwr dibynadwy
- Rhoi cyngor a technegol a chymorth i drefnu gwaith
- Rhoi gwybodaeth ar gynnydd a gwirio eich bod yn hapus gyda’r gwaith a wnaed
Gall Age Cymru Powys gynnal gwasanaeth cyfrinachol rhad ac am ddim i wirio budd-daliadau a rhoi cymorth wrth lenwi ffurflen budd-daliadau lles.
Mae gennym hefyd fynediad i wasanaethau eraill i’ch helpu i gysylltu gyda phobl eraill. Gall y gefnogaeth hon gynnwys:
- Gwasanaethau cyfeillio
- Cymorth gyda iechyd meddwl i ostwng straen
- Cefnogaeth leol ar gyfer help ymarferol o amgylch y cartref
- Cynllunio nodau bywyd ar gyfer pan fyddwch yn hŷn a chynllunio ar gyfer y dyfodol
- Eiriolaeth a’ch cefnogi i sicrhau y caiff eich dymuniadau eu clywed
I gael mwy o wybodaeth ar brosiect Mamwlad a’r prosiectau sydd ar gael, neu i gael sgwrs gyfrinachol, cysylltwch â ni:
Age Cymru Powys

Gethin Edwards, Swyddog Cymorth Mamwlad
01686 623707
Gethin.Edwards@acpowys.org.uk
Gofal a Thrwsio ym Mhowys

Amy Peter, Gweithiwr Achos Mamwlad
01686 620760
Amy.Peter@crpowys.co.uk
Lesley Price, Gweithiwr Achos Mamwlad
01686 620760
Lesley.Price@crpowys.co.uk