Mae gweithgareddau Gofal a Thrwsio ym Mhowys yn cael eu goruchwylio gan Fwrdd Rheoli.

Pwyllgor yw hwn sy’n cynnwys cynrychiolwyr o Gymdeithas Tai Canolbarth Cymru (ein rhiant gwmni), aelodau etholedig Cyngor Sir Powys ac aelodau Bwrdd annibynnol sydd â phrofiad perthnasol. Mae uwch swyddogion o adran Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol yr awdurdod lleol hefyd yn mynychu cyfarfodydd fel sylwedyddion.

Mae’r Bwrdd yn cwrdd yn y Drenewydd bum gwaith y flwyddyn ar gyfartaledd ac mae Cyfarfod Cyffredinol Blynyddoedd yn cael ei gynnal bob haf. Mae’r Bwrdd yn gyfrifol am lywodraethu Gofal a Thrwsio ym Mhowys o ran polisi, cynllunio busnes, rheolaeth ariannol, monitro perfformiad a chyfrifoldebau cyfreithiol.

Cliciwch yma i weld Aelodau presennol y Bwrdd

Mae cofnodion cyfarfodydd y Bwrdd i’w cael trwy wneud cais i’r Rheolwr Asiantaeth.

Rydym bob amser yn awyddus i glywed gan bobl brofiadol a allai fod â diddordeb mewn dod yn aelodau o’r Bwrdd. Os hoffech chi ymholi am y rôl neu leoedd gwag cysylltwch â Rheolwr Asiantaeth Gofal a Thrwsio ym Mhowys am wybodaeth bellach ar 01686 620760 neu enquiries@crpowys.co.uk.