Os ydych chi (neu rywun yr ydych yn ei adnabod) dros 50 oed gyda nam ar eu golwg neu glyw neu dementia yna efallai y gallwn helpu.

Bydd Pat Griffiths, ein gweithiwr achos, yn ymweld â chi i drafod y problemau ymarferol sy’n eich wynebu yn eich cartref.

Mae pawb yn wahanol ac mae pob cartref yn wahanol, felly bydd sut y gallwn helpu yn dibynnu ar eich anghenion ac amgylchiadau.

Pat Griffiths

Os na fedrwn eich helpu ein hunain, byddwn yn ceisio canfod rhywun a all wneud hynny a’ch rhoi mewn cysylltiad â nhw.

Cyllidwyd y gwasanaeth yma gan Lywodraeth Cymru a chaiff ei gyflwyno mewn partneriaeth gyda RNIB Cymru a Gweithredu ar Golled Clyw Cymru.

Nid yw o bwys os mai chi eich hun yw perchennog eich cartref neu’ch bod yn ei rentu, yr hyn sy’n bwysig yw eich bod yn ddiogel, cynnes ac annibynnol.

Gallai’r enghreifftiau o’r hyn y medrem ei wneud gynnwys:

  • Cyngor ar opsiynau i addasu neu drwsio eich cartref
  • Gwirio pa fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt
  • Eich helpu i ostwng risg syrthio
  • Rhoi gwybodaeth am gynnyrch a all helpu gyda cholli golwg neu glyw
  • Gwiriad diogelwch cartref
  • Eich helpu i gael mynediad i wasanaethau cymorth eraill

Cysylltwch â Pat Griffiths, Gweithiwr Achos Ymdopi’n Well ar gyfer Gofal a Thrwsio ym Mhowys ar 01686 620760 neu e-bost pgriffiths@crpowys.co.uk