Mae eich diogelwch yn flaenoriaeth lwyr i ni.

Bydd pawb sy’n dod i’ch gweld o Gofal a Thrwsio ym Mhowys yn cario cerdyn adnabod. Byddwn bob amser yn cysylltu â chi ymlaen llaw i roi gwybod i chi fod ymweliad i ddod. Mae ein staff i gyd yn cael eu gwirio am record droseddol gyda Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd y Llywodraeth.

Byddwn hefyd yn gwarchod eich data sy’n cael ei gadw yn ein swyddfa fel bod eich manylion personol yn ddiogel.

Mae ein staff yn cael eu hyfforddi’n llawn ar gyfer gwirio a gosod systemau diogelwch tân neu ddarparu unrhyw offer y gwelir fod ei angen. Mae ein holl Dasgmyn wedi cael hyfforddiant mewn Cymorth Cyntaf Argyfwng.

Os bydd gwaith yn cael ei drefnu ar eich cyfer gyda’ch cydsyniad chi, byddwn yn eich hysbysu trwy lythyr y bydd contractwr yn ymweld, fel eich bod yn gwybod ymlaen llaw pwy fydd yn galw.

Cofiwch ofyn am gael gweld rhyw dystiolaeth adnabod, neu ID – bob tro. Ni fyddwch byth yn tramgwyddo aelod o’n tîm na’n contractwyr cyfrifol trwy ofyn iddyn nhw am ryw dystiolaeth pwy ydyn nhw.

Os byddech chi’n hoffi gwirio pwy yw rhywun sy’n galw i’ch gweld, ffoniwch ein swyddfa ar: 01686 620760  neu  0300 111 33 33