I wneud cais am unrhyw un o’r swyddi gwag a restrir islaw, bydd angen i chi:
- Lawrlwytho manylion y swydd wag y mae gennych ddiddordeb ynddi. Mae hyn yn cynnwys disgrifiad swydd a manyleb person llawn am y swydd.
- Darllen drwy’r datganiadau Cyfle Cyfartal a Phroses Recriwtio.
- Gallwch wedyn ddewis llenwi’r Ffurflen Gais ar-lein (Yn lle hynny, ar y dudalen Cysylltu â Ni, gallwch ofyn am i gopi o’ch ffurflen Cais am Swydd).
Mae’n rhaid llenwi pob rhan o ffurflenni cais am swydd. Yn ychwanegol, gellir atodi CV gyda hyn neu ei lanlwytho ar-lein os defnyddiwch y ffurflen ar-lein cais am swydd a’i hanfon at y Asiantaeth erbyn y dyddiad cau a nodwyd.
Gofynnwn i bob ymgeisydd lenwi ffurflen gais i sicrhau proses asesu deg a chyson.
Hysbysir pob ymgeisydd cyn gynted ag sy’n bosibl ar ôl y dyddiad cau os ydynt ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad neu os buont yn aflwyddiannus y tro hwn.
Dalier sylw: Ar gyfer rhai swyddi, bydd angen gwiriad boddhaol Gwasanaeth Datgeliad a Gwahardd (DBS). Fodd bynnag, dim ond ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus y gwneir hyn.