Gofal a Thrwsio ym Mhowys – Datganiad Strategaeth Pobl
Nod Gofal a Thrwsio ym Mhowys yw parhau i ddarparu profiad gwaith o ansawdd uchel a sicrhau bod gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, eu gwerthfawrogi a’u bod yn rhan o waith yr Asiantaeth. Yn bwysicaf oll y nod yw bod gweithwyr yn teimlo’n falch o fod yn rhan o Ofal a Thrwsio ym Mhowys a’u bod yn cyfrannu at lwyddiant y sefydliad drwy ddarparu gwasanaeth ardderchog i gwsmeriaid. Rydym yn falch bod ein staff i gyd yn gwybod sut mae eu rôl yn cyfrannu at ein llwyddiant.
Mae Gofal a Thrwsio ym Mhowys yn ymdrechu i ddarparu amgylchedd gweithio cadarnhaol ac yn cynnal ymwybyddiaeth o faterion amrywiaeth o ran polisïau cyflogaeth a chyflenwi gwasanaethau.
Mae Gofal a Thrwsio ym Mhowys wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth dwyieithog ac yn cynnwys y Gymraeg fel rhan o’i Chynllun Cydraddoldeb Sengl.
Gweithio gyda ni
Yma yn Gofal a Thrwsio ym Mhowys, rydym yn ymfalchïo ein bod yn sefydliad bach, proffesiynol a chyfeillgar. Mae ein gweithwyr wedi ymrwymo i sicrhau bod ein cleientiaid yn cael eu cadw’n ddiogel ac yn gynnes yn eu cartrefi eu hunain.
Cefnogir cyflawniadau Gofal a Thrwsio ym Mhowys gan y gwerthoedd craidd – Urddas a Pharch, Cynwysoldeb, Canolbwyntio-ar-y-Person, Ansawdd ac Amrywiaeth. Rydym yn cynnig amgylchedd gwaith ysgogol a heriol sy’n cynnig cyfle ar gyfer datblygiad proffesiynol a phersonol. Yn gyfnewid am hynny, rydym yn disgwyl ymrwymiad i ragoriaeth, brwdfrydedd a’r cymhelliant i ddod o hyd i atebion arloesol i broblemau lleol. Rydym yn croesawu pobl sydd â pharodrwydd i herio ac i wthio’r ffiniau derbyniol gydag ysfa wirioneddol i ddod o hyd i ffyrdd o ddarparu gwasanaethau o safon.
Manteision gweithio i Ofal a Thrwsio ym Mhowys
- Cyflogau cystadleuol
- Gweithio hyblyg
- Gwyliau blynyddol yn dechrau ar 23 diwrnod yna’n codi un diwrnod fesul blwyddyn wedi’i gwblhau o gyflogaeth hyd at uchafswm o 33 diwrnod y flwyddyn (pro rata am ran-amser)
- Cynllun pensiwn
- Profion llygaid am ddim a chyfraniad tuag at sbectol ar gyfer gofynion penodol
- Telir ffioedd aelodaeth corff proffesiynol, lle bo hynny’n berthnasol i’r rôl
- Cyfleoedd dysgu a datblygiad proffesiynol
- Ffonau symudol a thabledi ar gyfer rolau penodol
- Parcio ar y safle
- Diodydd poeth ac oer
Gwneud cais i weithio i Gofal a Trwsio ym Mhowys
Cwblhewch y cais mor llawn ag sy’n bosibl. Mae’n bwysig rhoi cymaint o fanylion ag y gallwch gan y bydd eich cais yn cael ei ystyried yn y lle cyntaf ar yr wybodaeth y byddwch yn ei darparu. Bydd unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei rhoi yn cael ei thrin yn gwbl gyfrinachol. Fodd bynnag, dylech fod yn ymwybodol ein bod wedi cofrestru o dan y Ddeddf Diogelu Data 1984.