Cydymffurfiaeth â Gofynion Deddfwriaethol a Statudol

- Mae Gofal a Thrwsio ym Mhowys yn cydymffurfio gyda’r ddeddfwriaeth briodol wrth hysbysebu swyddi a dethol gweithwyr..
- Mae Gofal a Thrwsio ym Mhowys yn cydymffurfio gyda gofynion y Swyddfa Gartref ar gyfer cyflogwyr i wirio hawl darpar weithwyr i weithio yn y Deyrnas Unedig.
- Mewn rhai amgylchiadau gall Gofal a Thrwsio ym Mhowys gyflogi perthynas agos i weithiwr presennol ond caiff ei wahardd rhag cynnig cyflogaeth i Aelod Bwrdd neu berthynas agos i Aelod Bwrdd neu gyn Aelod Bwrdd.
Sut ydym yn recriwtio gweithwyr
- Caiff panel cyfweld ei ddewis, yn cynnwys y rheolwr llinell, cynrychiolydd adnoddau dynol a, lle’n briodol, yr aelod perthnasol o’r Grŵp Gweithredol. Os yw’r swydd wag ar gyfer aelod o’r Grŵp Gweithredol bydd Cadeirydd Gofal a Thrwsio ym Mhowys, aelodau eraill o’r Bwrdd a gweithwyr eraill hefyd yn ymwneud â’r broses recriwtio..
- Fel arfer caiff swyddi gwag eu hysbysebu’n ddwyieithog yn y wasg leol ac ar wefan Gofal a Thrwsio. Ar gyfer rhai swyddi gellir penderfynu hysbysebu’n fwy eang yn y wasg leol neu genedlaethol neu mewn cylchgronau proffesiynol arbenigol.
- Rhoddir pecyn cais i ymgeiswyr yn cynnwys ffurflen gais, ffurflen monitro cydraddoldeb, disgrifiad swydd a manyleb person ar gyfer y swydd y caiff ceisiadau eu hasesu arnynt a gwybodaeth gyffredinol am Gofal a Thrwsio ym Mhowys fel sy’n briodol. Rhaid gwneud ceisiadau ar ffurflen gais Gofal a Thrwsio ar gyfer hwylustod cymhariaeth wrth lunio rhestr fer ac i sicrhau fod pob ymgeisydd yn rhoi’r un wybodaeth sylfaenol. Gellir atodi curriculum vitae (CV) ar y ffurflen gais. Ni chaiff ceisiadau eu derbyn ar ôl yr amser a’r dyddiad cau a nodir yn yr hysbyseb. Caiff pob cais eu trin yn gyfrinachol.
Sut ydym yn dethol yr ymgeisydd llwddiannus
- Mae’r Panel Cyfweld yn paratoi rhestr fer o ymgeiswyr i’w gwahodd am gyfweliad. Caiff pob cais ei asesu ar feini prawf a gytunwyd yn flaenorol gan o leiaf ddau aelod o staff y Panel Cyfweld, gan roi ystyriaeth i’r disgrifiad swydd a’r fanyleb person. Fel arfer caiff rhestr fer o bump neu chwech ymgeisydd eu dewis ar gyfer cyfweliad.
- Mae Gofal a Thrwsio ym Mhowys yn ymroddedig i gyflawni goblygiadau y Symbol Anabledd a bydd yn cyfweld pob ymgeisydd ag anabledd sy’n cyflawni’r meini prawf gofynnol ar gyfer y swydd wag.
- Caiff pob ymgeisydd na chafodd eu cynnwys ar y rhestr fer ar gyfer eu swydd eu hysbysu am hynny.
- Gwahoddir yr ymgeiswyr ar y rhestr fer i fynychu cyfweliad a chaiff pob un ohonynt yr un wybodaeth am Gofal a Thrwsio ym Mhowys ac am y Panel Cyfweld.
- Gellir gofyn i ymgeiswyr gwblhau detholiad o brofion a/neu gyflwyniad addas ar gyfer y swydd.
- Mae’r Panel Cyfweld yn cyfweld pob ymgeisydd ar y dyddiad a bennwyd ac yn penderfynu ar yr ymgeisydd llwyddiannus gan roi ystyriaeth i’w cymwysterau, profiad, gallu ac addasrwydd ar gyfer y swydd. Nid yw’r cwestiynau a ofynnir i ymgeiswyr yn wahaniaethol.
- Mae pob ymgeisydd sy’n mynychu cyfweliad yn gymwys am ad-daliad o’u costau teithio ar y gyfradd a gymeradwywyd gan Gyllid y Wlad.
- Gofynnir i bob ymgeisydd a wahoddir ar gyfer cyfweliad i ddangos eu pasbort neu ddogfennau derbyniol eraill i alluogi Gofal a Thrwsio ym Mhowys i wirio fod ganddynt hawl cyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Mae hyn er mwyn cydymffurfio gyda gofynion y Swyddfa Gartref.
- Gofynnir i bob ymgeisydd a wahoddir ar gyfer cyfweliad i ddangos dogfennau yn brawf o’u cymwysterau.
- Cynigir y swydd i’r ymgeisydd llwyddiannus cyn gynted ag sy’n bosibl ar ôl cyfweliad. Bydd hyn yn ddibynnol ar dderbyn tystlythyrau boddhaol i Gofal a Thrwsio yng Nghymru. (Ein polisi yw gofyn am o leiaf ddau dystlythyr ysgrifenedig yng nghyswllt ymgeiswyr allanol, ac mae’n rhaid i un ohonynt fod gan gyflogwr blaenorol (neu, os mai dyma swydd gyntaf y darpar weithiwr, athro ysgol neu ddarlithydd addysg bellach neu addysg uwch) ac yn amodol hefyd ar wiriad llwyddiannus gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS). Mae’r llythyr cynnig yn nodi prif delerau ac amodau cyflogaeth, y cyflog dechreuol a dyddiad dechrau cyflogaeth. Mae’n ofynnol i’r ymgeisydd llwyddiannus dderbyn mewn ysgrifen gynnig Gofal a Thrwsio ym Mhowys.
- Yn dilyn y cynnig o benodiad gall fod angen i’r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau holiadur meddygol os oes cyfiawnhad rhesymol am hynny ar gyfer y swydd.
- Pe byddai’r ymgeisydd llwyddiannus yn byw mor bell i ffwrdd o’r swyddfa fel na fyddai’n rhesymol neu’n ymarferol disgwyl iddynt fynychu’n ddyddiol heb galedi, bydd Gofal a Thrwsio ym Mhowys yn talu costau symud rhesymol. Bydd angen tri dyfynbris gan gwmnïau symud a bydd Gofal a Thrwsio ym Mhowys yn ad-dalu cost y dyfynbris isaf.
- Ar ôl penodi’r ymgeisydd llwyddiannus, hysbysir yr holl ymgeiswyr eraill a wahoddwyd ar gyfer cyfweliad cyn gynted ag sy’n bosibl ar ô y dyddiad cyfweliad y buont yn aflwyddiannus y tro hwn.
Gwiriadau Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
- Byddapwyntiadau i rai swyddi yn amodol ar wiriad DBS boddhaol. Mae’r categori hwn yn cynnwys:
- Swyddi sy’n golygu cysylltiad personol rheolaidd gyda phobl fregus
- Swyddi sy’n golygu graddfa uchel o gyfrifoldeb am faterion ariannol
- Swyddi Grŵp Gweithredol.
- Lle mae swydd i gael ei llenwi yn amodol ar wirid DBS, caiff y gofyniad hwn ei gynnwys yn y pecyn ymgeisio
- Dim ond ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus y bydd Gofal a Thrwiso ym Mhowys yn gwneud cais am ddatgeliad. Bydd unrhyw gynnig cyflogaeth yn amodol ar wiriad DBS boddhaol.
- Bydd y gofyniad am ddatgeliad boddhaol yn weithredol hefyd i ymgeiswyr o Asiantaeth Cyflogaeth ac i ymgeiswyr mewnol a gafodd eu dyrchafu neu eu trosglwyddo i swydd a ddaw o fewn ycategori hwn
Os hoffech gael mwy o wybodaeth am y ffordd y mae Gofal a Thrwsio yn recriwtio ac yn dethol gweithwyr cysylltu â ni os gwelwch yn dda.