Gofal a Thrwsio ym Mhowys – Datganiad Cyfle Cyfartal

Mae Gofal a Thrwsio ym Mhowys yn gwerthfawrogi amrywiaeth unigolion a byddwn yn anelu i sicrhau y caiff amrywiaeth yn ein cymdeithas ei adlewyrchu yn ein gweithlu ac Aelodau ein Bwrdd. Mae Gofal a Thrwsio ym Mhowys yn credu fod amrywiaeth yn ychwanegu gwerth i’n sefydliad ac yn ei alluogi i ddiwallu anghenon yr unigolion a’r cymunedau y mae’n eu gwasanaethau.

Mae Gofal a Thrwsio ym Mhowys yn anelu i fod yn sefydliad lle caiff amrywiaeth unigolion ei barchu, ei ddathlu a’i annog yn llawn a lle mae cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ymdreiddio drwy’r holl sefydliad a’i holl weithgareddau.

Nod Gofal a Thrwsio yw hyrwyddo amgylchedd a diwylliant cadarnhaol ymysg ei weithwyr ac Aelodau ein Bwrdd lle caiff pawb eu gwerthfawrogi ac na chaiff neb eu trin yn llai ffafriol os nad oedd gwrthwynebiad gwrthrychol a ganiateir dan y Ddeddf Cydraddoldeb.

Bydd Gofal a Thrwsio yn darparu gwasanaethau hygyrch i bawb, heb dueddiad na rhagfarn.

Bydd Gofal a Thrwsio ym Mhowys yn sicrhau y caiff pawb eu trin yn deg, bod ganddynt fynediad cyfartal i wasanaethau ac na wahaniaethir yn eu herbyn, eu haflonyddu na’u herlid. Bydd y sefydliad yn ymateb yn effeithlon os credir bod digwyddiadau o wahaniaethu yn cynnwys aflonyddu neu erlid uniongyrchol neu uniongyrchol wedi digwydd.

Mae Gofal a Thrwsio yng Nghymru yn cydnabod fod cyfle cyfartal yn golygu trin pawb yn deg yn seiliedig ar eu hanghenion unigol ac nad yw hynny o reidrwydd yn ymwneud â thrin pawb yr un fath. Bydd yn anelu i wneud addasiadau rhesymol i’w weithgareddau a sut mae’n gweithredu fel busnes er mwyn sicrhau y caiff pawb ei drin yn deg cyn belled ag sy’n rhesymol ymarferol.

Mae’r Cynllun Cydraddoldeb Sengl a’r cynllun gweithredu yn sicrhau fod cydraddoldeb ac amrywiaeth yn rhan integrol o’n harferion ac mae’r Strategaeth Pobl yn anelu i integreiddio’r cynllun yn llawn.

Anelwn ddarparu gwasanaethau sydd yr un mor hygyrch i bob cwsmer a byddwn yn gweithredu polisïau cadarn fydd yn sicrhau cydraddoldeb wrth recriwtio a datblygu gweithwyr.

Ymdrechwn i ddarparu amgylchedd gwaith cadarnhaol a chadw ymwybyddiaeth o faterion amrywiaeth yng nghyswllt polisïau cyflogaeth a hefyd ddarpariaeth gwasanaeth.

Sefydlwyd y Grŵp Adolygu Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn 2012. Bydd y grŵp hwn yn sicrhau y cynhelir Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb ar ein holl strategaethau a pholisïau fel y cânt eu hadolygu a’u datblygu.

Mae Gofal a Thrwsio ym Mhowys yn rhan o Grŵp Tai Canolbarth Cymru ac fel Grŵp mae gennym ddyletswydd gyffredinol i ddileu gwahaniaethu anghyfreithlon, aflonyddu ac erledigaeth, hybu cyfle cyfartal a meithrin perthynas dda rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd berthnasol a phobl nad ydynt.

Rydym yn ymroddedig i ddarparu gwasanaeth dwyieithog ac yn cynnwys y Gymraeg fel rhan o’r Cynllun Cydraddoldeb Sengl.

Caiff y Grŵp ei gydnabod am fod yn gadarnhaol am bobl anabl gyda’r cynllun ‘Dau Dic’. Mae hon yn gydnabyddiaeth a roddir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau i gyflogwyr sydd wedi cytuno i gymryd camau cadarnhaol i ateb pump ymrwymiad mewn cyflogaeth, cadw, hyfforddiant a datblygu gyrfa pobl anabl.

Byddwn yn:

  • Cyfweld pob ymgeisydd gydag anabledd sy’n cyflawni’r meini prawf gofynnol ar gyfer swydd wag a’u hystyried ar eu galluoedd.
  • Gofyn o leiaf unwaith y flwyddyn i weithwyr anabl beth y gallwn ei wneud i sicrhau y gallant ddatblygu a defnyddio eu galluoedd yn y gwaith.
  • Gwneud pob ymdrech pan ddaw gweithwyr yn anabl i wneud yn siŵr eu bod yn aros mewn cyflogaeth.
  • Gweithredu i sicrhau fod gweithwyr allweddol yn datblygu’r ymwybyddiaeth o anabledd sydd ei angen i wneud i’n hymrwymiadau weithio..
  • Bob blwyddyn i adolygu’r ymrwymiadau hyn a’r hyn a gyflawnwyd, cynllunio ffordd i’w gwella a gadael i weithwyr wybod am gynnydd a chynlluniau ar gyfer y dyfodol.