Cymerwch Ran a Gwneud Gwahaniaeth!
Mae Gofal a Thrwsio ym Mhowys yn darparu cyngor ac addasiadau ar gyfer pobl hŷn ac anabl, gan eu helpu i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain. Ein Bwrdd sy’n penderfynu cyfeiriad ein sefydliad, gan ein galluogi i wella cartrefi a newid bywydau pobl leol.
Rydym yn edrych am bobl ymroddedig i ymuno â ni. Byddwch yn:
- Cwrdd â phobl newydd sy’n gweithio i wella bywydau pobl eraill;
- Ein helpu i arwain ein hasiantaeth, gyda nifer o brosiectau cyffrous;
- Bod yn rhan o rwydwaith o asiantaethau, gan helpu pobl ar draws Cymru;
- Datblygu eich sgiliau a rhwydweithiau proffesiynol.
Gwerthfawrogwn gyfraniadau gan bobl gydag amrywiaeth o wybodaeth a phrofiad.
I gael mwy o wybodaeth ar sut y gallwch helpu, cysylltwch â’n Uwch Swyddog Llywodraethu, Elspeth Edwards, ar 0300 111 3030 neu e-bost post@barcud.cymru.
Sut I Wneud Cais
- Lawrlwythwch gopi o’n Pecyn Cais
- Lawrlwythwch gopi o’r Ffurflen Gais
- Cwblhewch a dychwelwch y Ffurflen Gais i’n Uwch Swyddog Llywodraethu, Elspeth Edwards drwy e-bost yn post@barcud.cymru neu drwy’r post yn y cyfeiriad isod:
Elspeth Edwards
Uwch Swyddog Llywodraethu
Barcud
Uned 4, Parc Busnes Pont Steffan
Llanbedr Pont Steffan
Ceredigion
SA48 7HH