Mae gwasanaethau cynghori Gofal a Thrwsio ym Mhowys yn ddi-dâl.

Holwch ni am fanylion unrhyw gostau eraill i chi yn ymwneud â mathau eraill o help a chymorth.
Os cawsoch eich cyfeirio ar gyfer mân addasiadau fydd dim arian yn cael ei godi arnoch chi am y gwaith hwnnw.

Os byddwch angen gwelliannau mwy i’ch cartref bydd modd ariannu’r rheini trwy wahanol ffyrdd, gan ddibynnu ar y grantiau a benthyciadau sydd ar gael ar y pryd a’ch amgylchiadau personol chi. Gall ein staff profiadol eich cynghori ynghylch grantiau neu fudd-daliadau llywodraeth leol neu genedlaethol i dalu am y gwaith, neu ddweud wrthych am sefydliadau eraill fel cronfeydd llesiannol / elusennol a allai’ch helpu. Mae rhai sefydliadau ariannu yn mynnu’n bod yn asesu’ch incwm i weld a fydd gofyn i chi wneud cyfraniad preifat.

Gall ein gweithwyr achos eich helpu i lenwi ffurflenni cais ar gyfer grantiau neu fenthyciadau. Bydd hyn am ddim ond byddwn yn cadw’r hawl i ofyn am dâl gweinyddu bychan gan gyllidwyr dyngarol fel rhan o gais am grant pan fydd hynny’n addas.

Os oes gwaith trwsio neu addasu mawr yn cael ei wneud yn eich cartref, gallwn eich helpu i ddod o hyd i gontractwyr profiadol gydag enw da a fydd yn codi pris teg arnoch.