Bydd ein gwaith Mân Addasiadau o fudd i bobl o unrhyw oed sydd ag anableddau.
Gall y cynllun helpu pobl i gael eu rhyddhau’n ddiogel o’r ysbyty ac mae hefyd yn helpu wrth atal pobl rhag gorfod mynd i ysbyty drwy leihau risg syrthio ac anafiadau yn y cartref.
I gael cymorth grant, rhaid i gleientiaid gael eu hatgyfeirio gan therapydd galwedigaethol, gweithiwr iechyd neu swyddog gwasanaethau cymdeithasol, neu gan Weithiwr Achos Gofal a Thrwsio.
Os cewch eich atgyfeirio am gymorth fydd dim tâl yn cael ei godi. Fe all y gofynion ar gyfer bod yn gymwys newid yn ystod y flwyddyn gan ddibynnu ar yr adnoddau sydd ar gael a’r rhestri aros ar y pryd, fel mai’r cleientiaid sydd mewn mwyaf o angen cymorth fydd yn cael sylw gyntaf.
Ariennir ein gwaith Mân Addasiadau gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Sir Powys a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.
Enghreifftiau o waith y gellir ei gyllido gyda grant:
- Canllawiau bach/cydio
- Rampiau dros dro neu barhaol
- Mynediad i gyfleusterau toiled
- Gosod rheiliau grisiau
- Stepiau a hanner stepiau
- Gwastatau llwybrau concrit
- Gwella goleuadau tu mewn/tu allan
- Gosod stribedi carped
- Ailosod cerrig palmant