Yn Gofal a Thrwsio ym Mhowys, rydym yn dîm bach ymroddgar o staff sy’n credu’n angerddol yn yr hyn yr ydym yn ei wneud i helpu pobl hŷn.

Rydym i gyd wedi ymrwymo i wneud yn siŵr fod ein cleientiaid yn cael eu cadw’n ddiogel, yn gynnes ac yn ddedwydd yn eu cartrefi eu hunain. Mae ein tiriogaeth yn enfawr, gan fod Powys yn ymestyn dros chwarter holl ddaear Cymru ac yn cynnwys rhai o ardaloedd gwledig mwyaf anghysbell y wlad. Golyga hynny y gall pobl fregus yn ein cymunedau fod ei chael hi’n anodd cyrraedd gwasanaethau.  Mae ein gwasanaeth cartref unigryw yn mynd â chymorth yr holl ffordd at ddrws tŷ’r unigolyn.

Mae Gofal a Thrwsio ym Mhowys yn sefydliad annibynnol dielw gyda statws elusennol. Rydym wedi’n cofrestru gyda’r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol fel Cymdeithas Budd Cymunedol o dan Ddeddf Cymdeithasau Lles Cydweithredol a Chymunedol 2014.

Cawsom ein sefydlu yn 1988 i wasanaethu tair sir wreiddiol Powys (Brycheiniog, Maesyfed a Threfaldwyn) a’n huno i greu un sefydliad yn 2003. Rydym yn gweithio o un swyddfa yn y Drenewydd.

Rydym yn is-gwmni i Barcud ac mae gennym fwrdd rheoli i oruchwylio gwaith yr Asiantaeth. Rydym yn aelod cyswllt o Care & Repair Cymru.

Mae Gofal a Thrwsio ym Mhowys yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru trwy Care & Repair Cymru, Cyngor Sir Powys, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Barcud.

Ein rhif cofrestru yw 29535R.