Ers 1988 mae Gofal a Thrwsio ym Mhowys wedi darparu gwasanaeth unigryw ar gyfer pobl hŷn ac anabl ledled Powys.
Ein Diben
Ein diben yw galluogi pobl hŷn ac anabl ym Mhowys i fyw mor annibynnol ag sydd modd mewn cartrefi diogel, cynnes a chyfleus.
Cyflawnir hyn drwy: Darparu cyngor ansawdd uchel, cymorth a gwasanaethau ymarferol mewn cysylltiad gyda rhanddeiliaid allweddo
Ein Gwerthoedd
Urddas a Pharch
Rydym yn trin ein holl gwsmeriaid fel unigolion, gydag urddas a pharch, ac yn galluogi pobl i gadw rheolaeth dros eu bywydau.
Cynwysoldeb
Rydym yn cydweithio gyda phartneriaid allweddol a chymunedau lleol i gyflenwi gwasanaethau cynaliadwy rhagorol.
Pobl yn ganolog
Rydym yn gweithredu mewn ffordd sy’n agored, teg, hygyrch a chyfiawn.. Parchwn farn ein cleientiaid a chydweithwyr. Rhown bobl yn gyntaf.
Ansawdd
Ein nod yw darparu gwasanaeth o’r ansawdd uchaf, a dangos gonestrwydd, cywirdeb a thryloywder ym mhopeth a wnawn.
Amrywiaeth
Rydym yn gwerthfawrogi a pharchu gwahanol ddiwylliannau a phrofiadau bywyd ein holl gleientiaid.