Pwy sy’n gymwys i fod yn gleient i Gofal a Chadw ym Mhowys?
Bydd cymhwyster yn amrywio yn ôl natur y gwasanaeth.
- Mae ein gwasanaeth craidd a ariennir gan Lywodraeth Cymru o fudd i berchnogion tai a thenantiaid preifat dros 60 oed.
- Mae ein prosiect Ymdopi’n Well o fudd i bobl â dementia, nam ar y synhwyrau neu sydd wedi cael strôc sydd dros 50 oed.
- Mae ein prosiect Mamwlad o fudd i bobl o gefndir ffermio sydd dros 50 oed.
- Mae ein gwaith addasu o fudd i bobl ag anableddau o unrhyw oedran.
Cysylltwch â ni i gael mwy o wybodaeth.
Pan wahaniaeth ydyn ni’n ei wneud ar ran ein cleientiaid?
- Yn 2022/2023 fe wnaethom gynorthwyo 2,069 o unigolion.
- Fe wnaethom helpu 97 o bobl i ddychwelyd i’w cartrefi eu hunain o ysbyty a chwblhau gwaith gan atal 1,452 derbynaid ysbyty.
- Drwy ein help uniongyrchol yn cael budd-daliadau ychwanegol, fe wnaethom gynyddu incwm cleientiaid gan gyfanswm cyfun o £205,290.
- Fe wnaethom codi £26,653 o gyllid dyngarol ar gyfer ein cleientiaid tuag at gost gwaith adeiladu