Mae’r Gwasanaeth Cartrefi Iach yn cael ei ddarparu gan y gwasanaeth ymweld Gofal a Thrwsio ar gyfer pobl hŷn, yn byw ym Mhowys, i asesu a chynghori ar ddiogelwch yn y cartref.
Ein nod yw cynyddu annibyniaeth ac atal cwympo neu ddamwain yn y cartref. Bydd unrhyw waith sydd wedi’i gytuno yn cael ei wneud gan ein tîm Mân Addasiadau.
Mae Asesiad Cartref Iach yn cynnwys:
- Atal damweiniau a chwympo
- Diogelwch yn y cartref
- Diogelwch tân
- Diogeliad y tŷ
- Arbed ynni /cartref clud
Gall gwaith gynnwys:
- Canllawiau a rheiliau gafael
- Grisiau a chanllawiau allanol
- Synwyryddion mwg
- Synwyrddion carbon monocsid
Mae’r Asesiad Cartref Iach yn RHAD AC AM DDIM a gall rhywfaint o’r gwaith gael nawdd cymorthdaliadau. Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth neu i archebu asesiad.