Mae gwasanaethau Gofal a Thrwsio ym Mhowys yn amrywio o bethau syml fel gosod canllaw cydio i oruchwylio codi estyniadau i dai, a phopeth yn y canol!

Mae ein Tîm Mân Addasiadau ein hunain yn gwneud unrhyw waith addasu neu drwsio bach, yn enwedig i hwyluso rhyddhau pobl o ysbyty, ac atal pobl rhag cwympo. Ar gyfer gwaith adeiladu mwy, byddwn yn ysgwyddo’r baich o wneud y gwaith papur ar gyfer ceisiadau am grant a darganfod contractwyr dibynadwy.

Byddwn yn ymweld â’r cleient yn eu cartrefi ac yn dynodi pwynt cyswllt ar gyfer yr achos. Byddwn yn gweithio mewn cydweithrediad ag amryw o asiantaethau gan gynnwys yr Awdurdod Lleol, Bwrdd Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol, yr Adran Gwaith a Phensiynau, Gwasanaeth Tân Canolbarth A Gorllewin Cymru, Therapyddion Galwedigaethol a nifer o gyllidwyr llesiannol a sefydliadau trydydd sector.

Byddwn hefyd yn cynnig asesiad incwm i’n cleientiaid i weld ydyn nhw’n derbyn yr holl fudd-dal y mae ganddyn nhw hawl iddo. Mae hyn i gyd yn ein helpu i ddarparu gwasanaeth ‘siop un stop’ effeithiol.