Gall Gofal a Thrwsio ym Mhowys roi cyngor, gwybodaeth a chymorth i chi yn ddi-dâl i’ch galluogi i barhau i fyw’n ddiogel ac yn ddedwydd yn annibynnol yn eich cartref.

Yn aml bydd hyn yn digwydd trwy ymweliad personol â’ch cartref gan un o’n Gweithwyr Achos profiadol. Byddwn yn gwrando ar eich anghenion ac yn cynnig pecyn o wybodaeth a thrwsio neu addasu.

Mae agwedd hawliau lles gwaith yr asiantaeth yn bwysig iawn. Gall yr asiantaeth eich helpu i gael yr incwm uchaf trwy gynnal Gwiriad Budd-daliadau am ddim. Mae ein Gweithwyr Achos wedi llwyddo i hawlio budd-daliadau fel credyd pensiwn, lwfans gweini, budd-dal tai a budd-dal treth gyngor i unigolion.

Dim ond i unigolion sy’n derbyn cyngor neu gymorth arall ynglŷn â thai gan yr asiantaeth y gall Gofal a Thrwsio ym Mhowys gynghori ar fudd-daliadau yn unig.

Os bydd Gofal a Thrwsio ym Mhowys yn gallu helpu, fe wnawn

  • Eich helpu i gael dyfynbrisiau gan adeiladwyr gydag enw da i’ch galluogi i wneud gwaith trwsio ac addasiadau bach i’ch cartref a’ch helpu gyda gweinyddu’r gwaith.
  • Eich cyfeirio at ein Gwasanaethau Technegol neu at Therapydd Galwedigaethol ar gyfer gweithiau mwy ac addasiadau.
  • Eich cynghori a’ch helpu i wneud ceisiadau i ffynonellau ariannol eraill pan fo’n bosib, gan gynnwys grantiau awdurdod lleol ac arian llesiannol.
  • Rhoi cyngor cyfrinachol am fudd-daliadau i sicrhau eich bod yn derbyn popeth y mae gennych hawl iddo a’ch cynorthwyo i lenwi ffurflenni cais.

Does dim rhaid i chi dderbyn y cyngor sy’n cael ei gynnig; chi sydd i wneud pob penderfyniad yn y pen draw ynglŷn â’r gwaith a’ch materion ariannol.

Mae gennym y Advice Quality Standard, sy’n rhoi sicrwydd i chi ein bod wedi bodloni meini prawf penodol sy’n dangos ymrwymiad i ansawdd.

Diogelwch Tân

Mae Gofal a Thrwsio ym Mhowys hefyd yn cynnig archwiliadau Diogelwch Tân yn y Cartref am ddim mewn partneriaeth gyda Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru. Gall ein staff hefyd roi cyngor ar beryglon tân a helpu i wneud cynllun dianc os bydd tân yn digwydd. Gall ein Gweithwyr Achos neu Swyddogion Mân Addasiadau gosod larymau mwg am ddim os bydd angen.