Ymwelodd Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, â Gofal a Thrwsio ym Mhowys i gwrdd â chleientiaid y Prosiect Mamwlad.

Ariennir Mamwlad gan Lywodraeth Cymru ac mae’n cefnogi pobl dros 50 oed sy’n byw ym Mhowys, sydd â chysylltiadau ag amaethyddiaeth a ffermio. Darperir y gwasanaeth gan Gofal a Thrwsio ym Mhowys mewn partneriaeth ag Age Cymru Powys.

Cyfarfu Julie Morgan â dau gleient a esboniodd sut roedd y prosiect wedi effeithio ar eu bywydau o ddydd i ddydd. 

Mae Mr Pryce bellach yn gallu mynd allan yn annibynnol ar ôl cyfnod o fod yn gaeth i’w dŷ.  Ar ôl gwerthu ei fuchod pan aeth yn sâl rai blynyddoedd yn ôl, mae bellach yn gallu helpu ei fab ac wedi prynu rhai buchod eto.  Dywed Mrs Pryce fod ei les meddyliol wedi gwella’n aruthrol o ganlyniad.   Dywed Mr Pryce ei fod wedi ailadeiladu ei hyder.

Mae Mrs Pryce yn dod o deulu o ffermwyr tenant.  Un o’r heriau ym Mhowys yw cyflwr cartrefi gwledig.  Roedd hyn yn atseinio gyda Mrs Pryce.  Pan fo cartref yn rhan o fusnes ffermio, mae’n bwysicach i’r da byw gael eu cartrefu mewn siediau o ansawdd uchel na buddsoddi yn lle mae’r bobl yn byw.

Mae Mrs Westwood yn byw mewn hen dŷ gwledig llawn cymeriad a grisiau.  Diolch i nifer o ganllawiau cydio a rhai atebion arloesol, mae hi bellach yn gallu cyrraedd ei chartref a symud o gwmpas yn fwy diogel.  Heb yr addasiadau syml hyn, ni fyddai wedi gallu aros yn ei chartref.

Ers ei ddechrau yn 2020, mae’r prosiect wedi cefnogi 1,115 o gleientiaid.

Mae’r cymorth hwn wedi cynnwys mân addasiadau i gartrefi, addasiadau mwy o faint fel cawodydd mynediad gwastad a chynyddu incwm – mwy na £350,000 ers mis Ebrill 2023 ar gyfer y gymuned ffermio ym Mhowys.

Mae llawer o heriau yn wynebu’r gymuned ffermio, ac mae’r angen am wasanaeth Mamwlad yn parhau.

Disgrifiodd Julie Morgan ei hymweliad fel un ‘goleuol’, gan ychwanegu ei bod bellach yn fwy ymwybodol o gymhlethdodau cefnogi’r gymuned ffermio.

Bydd y cyllid presennol ar gyfer prosiect Mamwlad yn dod i ben ym mis Mawrth 2025.