Wrth i ni symud i’r misoedd oerach, mae llawer o bobl hŷn yn pryderu am gostau gwresogi eu cartrefi, yn arbennig gan fod costau ynni yn parhau’n uchel. Mae cyngor a help ariannol ar gael, ond gall fod yn ddryslyd gwybod ble i edrych. Rydym wedi paratoi crynodeb o’r cymorth sydd ar gael i breswylwyr Powys.

Grantiau i wella effeithiolrwydd ynni eich cartref
NYTH
Mae cynllun Nyth, a ariannir gan Lywodraeth Cymru, yn cynnig ystod o gyngor diduedd yn rhad ac am ddim ac, os ydych yn gymwys, becyn o welliannau effeithiolrwydd ynni cartref am ddim tebyg i foeler newydd, gwres canolog, insiwleiddio, paneli solar neu bwmp gwres. Gall hyn ostwng eich biliau ynni a bod o fudd i’ch iechyd a’ch llesiant.
Cyswllt: 0808 808 2244 (rhadffôn) www.nyth.llyw.cymru
Cynllun Arbed Ynni Powys (ECO4 Flex)
Mae’r Cynllun ar gael i breswylwyr cymwys ym Mhowys ac mae’n cynnig cyllid ar gyfer gwelliannau effeithiolrwydd ynni gyda dull ‘tŷ cyfan’ i wella eich eiddo. Caiff y cynllun ei ariannu bron yn llwyr gan y Rhwymedigaeth Cwmni Ynni (ECO), cynllun effeithiolrwydd ynni gan y llywodraeth a weinyddir gan OFGEM. Mae ECO4 yn gynllun pedair blynedd yn rhedeg o 1 Ebrill 2022 i 31 Mawrth 2026. Lle mae ar gael, mae Cyngor Sir Powys hefyd wedi darparu cyllid i gyfrannu tuag at elfennau effeithiolrwydd ynni na chaiff eu hariannu gan ECO4 ar ffurf grant bach a/neu fenthyciadau di-log.
Cyswllt: 01656 747 622 https://www.warmwales.org.uk/powys-energy-saving-scheme-2/
Gwasanaethau cynghori
Age Cymru Powys
Maent yn cynnig gwasanaeth Gwiriad Ynni Cartref am ddim gyda chyngor a chymorth ymarferol i wella effeithiolrwydd ynni eich cartref ac aros yn gynnes a iach. Gallai hyn gynnwys ffitio rhimynnau atal drafft a phaneli adlewyrchu rheiddiaduron.
Cyswllt: 01686 623707 https://www.ageuk.org.uk/cymru/powys/
Cyngor Ar Bopeth Powys
Maent yn cynnig cyngor a chymorth os ydych yn ei chael yn anodd talu eich biliau ynni, e.e. trafod gyda chyflenwyr ar eich rhan os oes gennych filiau ynni neu wirio fod eich biliau ynni yn gywir.
Cyswllt: 0345 6018421 https://www.powyscitizensadvice.org.uk/
Gwasanaethau Eiriol Hafren Gwy
Mae Hafren Gwy yn cynnig cyngor a chymorth personol am ddim ar ynni drwy dîm o eiriolwyr ynni arbennig. Ar gyfer unrhyw un sy’n cael trafferthion i dalu eu biliau ynni neu gadw eu cartref yn gynnes, gall eiriolwyr gynnig cymorth gyda dyledion tanwydd, cyngor am eu biliau ynni, gwybodaeth am grantiau gwresogi ac insiwleiddio a chymorth i newid cyflenwr ynni.
Cyswllt: https://severnwye.org.uk/