Mae'r Gwasanaeth Cartrefi Iach yn cael ei ddarparu gan y gwasanaeth ymweld Gofal a Thrwsio ar gyfer pobl hŷn, yn byw ym Mhowys, i asesu a chynghori ar ddiogelwch yn y cartref.
Ein nod yw cynyddu annibyniaeth ac atal cwympo neu ddamwain yn y cartref. Bydd unrhyw waith sydd wedi’i gytuno yn cael ei wneud gan ein tîm Gwasanaeth Ymarferol.
Mae Asesiad Cartref Iach yn cynnwys:
• Atal damweiniau a chwympo
• Diogelwch yn y cartref
• Diogelwch tân
• Diogeliad y tŷ
• Arbed ynni / Cartref Clud
Gall gwaith gynnwys:
• Canllawiau a rheiliau gafael
• Grisiau a chanllawiau allanol
• Synwyryddion mwg
• Cloeon a chliciedau
• Atal drafft
Mae’r Asesiad Cartref Iach yn RHAD AC AM DDIM a gall rhywfaint o’r gwaith gael nawdd cymorthdaliadau. Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth neu i archebu asesiad.