Allwch chi helpu Gofal a Thrwsio ym Mhowys?

Mae ein gwasanaethau wedi helpu miloedd o bobl ym Mhowys ers 1988. Rydym wedi gallu gwneud hynny yn bennaf drwy gyllid gan Lywodraeth Cymru, y Cyngor Sir, y Bwrdd Iechyd ac eraill.

Dros y blynyddoedd, gyda chostau’n cynyddu a chyllid yn aros yn ei unfan neu’n crebachu, cawsom ein helpu gan gyfraniadau gan gleientiaid. Os dymunwch wneud cyfraniad ac y gallwch fforddio gwneud hynny, byddem yn ddiolchgar pe byddech yn llenwi ac yn dychwelyd ein ffurflen gyfrannu .

Lawrlwythwch Ffurflen Gyfrannu

Gwerthfawrogir pob cyfraniad, pa bynnag mor fach ond os byddai’n well gennych helpu mewn ffordd arall, rhowch y gair ar led os gwelwch yn dda am sut mae’n gwasanaeth wedi gwneud gwahaniaeth i chi. Mae llawer efallai heb glywed am Gofal a Thrwsio a all fod ein hangen ac mae bob amser yn helpu pan mae’r rhai sy’n penderfynu ar ein cyllid yn clywed newyddion da.

Diolch gan bawb yn Gofal a Thrwsio.