Pwy sy’n gymwys i fod yn gleient i Gofal a Chadw ym Mhowys?
Bydd cymhwyster yn amrywio yn ôl natur y gwasanaeth.
- Mae ein gwasanaeth craidd a gyllidir gan Lywodraeth Cymru o fudd i bobl dros 60 oed.
- Bydd ein rhaglen Ymdopi'n Well a'r Rhaglen Addasiadau Brys o fudd i bobl dros 50 oed
- Bydd ein gwaith addasu o fudd i bobl o unrhyw oed sydd ag anableddau
Cysylltwch â ni i gael mwy o wybodaeth.
Pan wahaniaeth ydyn ni’n ei wneud ar ran ein cleientiaid?
- Yn 2019/2020 fe wnaethom helpu 1,999 o unigolion.
- Mae cyfartaledd oed ein cleientiaid yn 77 ac roedd 15% o’r bobl a helpwyd yn 90 oed neu drosodd.
- Fe wnaethom helpu 115 o bobl i ddychwelyd i’w cartrefi o ysbyty a chwblhau gwaith a gadwodd 1,373 o bobl rhag gorfod mynd i ysbyty.
- Helpwyd 1,458 o gleientiaid i leihau neu atal eu risg o syrthio.
- Cafodd diogelwch personol a diogelwch cartref 313 o gleientiaid ei wella.
- Drwy ein cymorth uniongyrchol i dderbyn budd-daliadau ychwanegol, fe wnaethom gynyddu incwm cleient gan gyfanswm rhyngddynt o £272,534.
- Codwyd £3,801 o gyllid llesiannol ar gyfer ein cleientiaid tuag at gost gwaith adeiladu.