Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Gofal A Thrwsio Ym Mhowys Yn Rhoi Sylw I Linell Gymorth Ar Unigrwydd
Cynhaliodd Gofal a Thrwsio ym Mhowys ei Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar 24 Gorffennaf 2017 gyda chynrychiolwyr o Care & Repair Cymru, PAVO, Cyngor Sir Powys, Whittingham Riddell yn ogystal â Chymdeithas Tai Canolbarth Cymru yn bresennol. Soniodd y siaradwraig wadd Linda Yeates o The Silver Line am y gwasanaeth llinell gymorth rhagorol y maent yn ei darparu i gefnogi pobl hŷn ar draws y Deyrnas Unedig. Mae'n cynnig gwybodaeth, cyfeillgarwch a chyngor gan gysylltu galwyr gyda grwpiau a gwasanaethau lleol gan ddiogelu a chefnogi pobl hŷn sy'n dioddef camdriniaeth ac esgeulustod.