Hynach Nid Oerach

Mynd i’r afael â thlodi tanwydd ymysg pobl hŷn yng Nghymru.

Mae Hynach Nid Oerach yn wasanaeth Cymru-gyfan sy’n helpu pobl hŷn i gadw eu cartrefi yn gynnes a gostwng eu biliau ynni.

Gallwn ymweld ac asesu eich cartref a rhoi cyngor arbenigol i chi yn rhad ac am ddim. Byddwn hyd yn oed yn ceisio canfod cyllid i chi os ydych angen gwaith trwsio neu waith i wella effeithiolrwydd ynni neu gynhesrwydd eich cartref.

Mae’r gwasanaeth ar gyfer pobl sydd:

  • yn byw yng Nghymru
  • dros 60 oed
  • yn berchen eu cartref eu hunain neu yn rhentu’n breifat.

Sut mae Hynach Nid Oerach yn mynd i’r afael â thlodi tanwydd

Mae prosiect Hynach Nid Oerach yn anelu i fynd i’r afael â thlodi tanwydd drwy fesurau arbed ynni, cynyddu incwm aelwydydd a chyngor ar ynni. Mae hyn wedyn yn gwella llesiant ac iechyd cyffredinol y rhai sy’n byw yn y cartrefi. Mae’r gwasanaeth hefyd yn helpu i ostwng pwysau ar GIG Cymru.

Mae gan y gwasanaeth 12 Swyddog Ynni Cartref arbenigol sydd rhyngddynt yn darparu gwasanaeth ledled Cymru. Mewn cysylltiad â phartneriaid presennol a gwasanaethau lleol cyfredol, mae’r prosiect yn trin problemau a waethygir gan yr argyfwng costau byw, prisiau ynni uchel a’r pandemig, gan anelu yn y pen draw i wella iechyd a llesiant cyffredinol pobl hŷn yng Nghymru.