Allwn ni helpu?

Ffoniwch ni ar 01686 620760

Helpu pobl hŷn ac anabl i fyw’n annibynnol mewn cartrefi cynnes, diogel a chyfleus

Ydych chi angen help i fyw’n ddiogel ac annibynnol yn eich cartref eich hun wrth i chi heneiddio?

Mae Gofal a Thrwsio ym Mhowys yn rhoi arbenigedd, cyngor a chymorth ymarferol i bobl hŷn ac anabl sydd angen iddynt wneud addasiadau neu welliannau i’w cartref. Gwnawn hyn i helpu pobl i barhau i fyw’n annibynnol mewn cartrefi diogel, cynnes a chyfleus.

Gallwn:

  • Rhoi cyngor arbenigol ar opsiynau i addasu neu wella eich cartref
  • Rhoi help ar ganfod ffynonellau cyllid ar gyfer y gwaith sydd angen ei wneud
  • Rhoi cyngor ar fudd-daliadau i’ch helpu i sicrhau eich bod yn derbyn yr holl incwm mae gennych hawl iddo
  • Asesu a chynghori ar ddiogelwch a sicrwydd yn y cartref i gynyddu annibyniaeth a gostwng cwympiadau
  • Darparu gwasanaeth technegol yn cynnig cyngor adeiladu
  • Eich helpu i ganfod contractwr adeiladu lleol sydd ag enw da
  • Eich hysbysu ar gynnydd a gwirio eich bod yn hapus gyda’r gwaith a gafodd ei wneud.

Ydw i yn gymwys am help gan Gofal a Thrwsio?

Bydd cymhwyster yn amrywio yn ôl natur y gwasanaeth. Cliciwch i ganfod sut y gallwch gael budd.

Beth all Gofal a Thrwsio ei wneud i mi?

Gallwn roi help a gwybodaeth ar gyfer addasu neu wella eich cartref.

Ein Fideo

Cafodd y fideo dwyieithog hwn gan Gofal a Thrwsio ym Mhowys ei ffilmio yn 2018 fel rhan o’n dathliadau 30 oed. Gyda help ein cleientiaid mae’n dangos pa wahaniaeth y gallwn ei wneud drwy’r gwasanaethau a gynigiwn a sut y gallem eich helpu.

Mwy o wybodaeth

Gwasanaeth Cartref Iach

Mae’r Gwasanaeth Cartref Iach yn wasanaeth ymweld â chartrefi ar gyfer pobl hŷn, sy’n byw ym Mhowys, i asesu eich cartref a’ch cynghori ar unrhyw addasiadau neu welliannau y gellir eu gwneud.

Gweld datganiad i’r wasg

Mwy o wybodaeth

Budd-daliadau a Lles

Cafodd ceisiadau llwyddiannus eu gwneud ar ran unigolion ar gyfer budd-daliadau tebyg i gredyd pensiwn, lwfans gweini, budd-dal tai a budd-dal treth gyngor.

Mwy o wybodaeth